Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 20
Mehefin 2023
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3 Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd- Y Rhaglen Cartrefi Clyd
(30 munud)
4 Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Sefydlu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil
(30 munud)
5 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Mesurau cenedlaethol i gryfhau gofal cymdeithasol
(30 munud)
6 Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Sicrhau mwy o fanteision i fyd natur, yr amgylchedd a chymunedau drwy systemau draenio cynaliadwy – cyhoeddi adolygiad Llywodraeth Cymru a ffordd ymlaen - GOHIRIWYD
(0 munud)
7 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Lansio 111 dewis 2 ar gyfer iechyd meddwl brys
(30 munud)
8 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Diwrnod y Lluoedd Arfog
(30 munud)
9 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol
(15 munud)
NDM8297 Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Tachwedd 2022, 3 Ionawr 2023 a 9 Mawrth 2023 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Y Bil Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol - Senedd y DU (Saesneg yn unig)
Dogfennau
Ategol
Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
(Memorandwm a Memorandwm Rhif 2)
Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
(Memorandwm Rhif 3)
Adroddiad
Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig (Memorandwm a
Memorandwm Rhif 2)
Llythyr gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig at y
Pwyllgor Busnes
10 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Mudo Anghyfreithlon
(15 munud)
NDM8296 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Mudo Anghyfreithlon i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 31 Mawrth 2023 a 26 Mai 2023, yn y drefn honno, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Gellir gweld copi o’r Bil ar wefan Senedd y DU:
Bil Mudo Anghyfreithlon - Senedd y DU (Saesneg yn unig)
Dogfennau
Ategol
Adroddiad y
Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol
Adroddiad y
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
11 Cyfnod Adrodd y Bil Amaethyddiaeth (Cymru)
(30 munud)
Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, caiff y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn ymddangos yn y Bil.
Dogfennau
Ategol
Bil Amaethyddiaeth (Cymru), fel y’i diwygiwyd yng Nghyfnod
3
Memorandwm
Esboniadol Diwygiedig, yn dilyn Cyfnod 3
Hysbysiad ynghylch
Gwelliannau
12 Cyfnod pleidleisio
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 12.45, Dydd Mercher, 21 Mehefin 2023